Mae Lloyds Banking Group yn grŵp gwasanaethau ariannol blaenllaw yn y DU sy’n darparu ystod eang o wasanaethau bancio ac ariannol, sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid personol a masnachol.
Prif weithgareddau’r Grŵp yw manwerthu, bancio masnachol a chorfforaethol, yswiriant cyffredinol ac oes, a darpariaeth pensiynau a buddsoddi. Mae’r Grŵp yn gweithredu banc manwerthu mwyaf y DU ac mae ganddo gronfa cwsmeriaid fawr ac amrywiol.
Cynigir gwasanaethau trwy nifer o frandiau cydnabyddedig gan gynnwys Lloyds Bank, Halifax, Banc of Scotland a Scottish Widows ac ystod o sianeli dosbarthu. Mae hyn yn cynnwys y rhwydwaith canghennau mwyaf yn y DU, a gwasanaethau digidol, teleffoni a symudol cynhwysfawr.
Dyfynnir y Lloyds Banking Group ar Gyfnewidfa Stoc Llundain a Chyfnewidfa Stoc Efrog Newydd ac ef yw un o’r cwmnioedd mwyaf o fewn y FTSE 100.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Lloyds Banking Group