Banner image

Bywyd yng Nghasnewydd

Wetlands-with-swan P
Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi (pdf)

Bywyd yng Nghasnewydd

  • Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn ar hyd arfordir y ddinas, gan fynd trwy Warchodfa Natur Gwlyptiroedd nodedig yr RSPB.
  • Mae Dyffryn Wysg, Dyffryn Gwy a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oll ar drothwy’r ddinas, gan gynnig harddwch naturiol syfrdanol a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
  • Mae mynediad hawdd i’r Arfordir Treftadaeth ac arfordir Gŵyr.
  • Mae rhwydwaith llwybrau beicio a throedffordd yn cysylltu canol y ddinas ac ardal ei pharc glan afon â chefn gwlad, yr arfordir a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.

Tai

  • Mae prisiau tai tua 78% y gost gyfartalog ar gyfer Cymru a Lloegr. 
  • Mae cartrefi newydd wedi’u creu, gan gynnwys datblygiadau amgylcheddol arobryn a fflatiau glan afon moethus yn agos at ganol y ddinas.
  • Dros y tair blynedd diwethaf, mae mwy o gartrefi newydd wedi’u hadeiladu yng Nghasnewydd nag mewn unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru (sy’n dangos yr hyder yng Nghasnewydd). 
  • Bydd 3,500 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu erbyn 2023. 

Chwaraeon a Hamdden

  • Agorwyd amwynder hirddisgwyliedig Friars Walk ym mis Tachwedd 2015, gan ddod â brandiau manwerthu a hamdden blaenllaw i ganol y ddinas.
  • Mae dros 30 cwrs golff yng Nghasnewydd a’r cyffiniau yn ogystal â llwybrau beicio a cherdded sy’n cysylltu’r ddinas â Chaerllion a Llwybr Arfordir Cymru.
  • Mae Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd yn cynnwys Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas gyda phwll nofio, campfa, canolfan tenis dan do a stadiwm pêl-droed ac athletau.
  • Dewch i gefnogi tîm rygbi Dreigiau Gwent Casnewydd, Clwb Pêl-droed Sir Gasnewydd a Chlwb Rygbi Casnewydd yn Rodney Parade a mwynhau perfformiadau theatr a dawns proffesiynol, arddangosfeydd, gweithdai a dosbarthiadau yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon.
  • Mae chwaraewyr a hyfforddwyr pêl-droed gorau Cymru ynghyd â phobl ifanc frwd yn hogi eu sgiliau yn y Ganolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol.
  • Mae pencadlys Ballet Cymru yng Nghasnewydd. Mae’r stiwdio’n cynnwys un o’r ardaloedd dawnsio mwyaf yng Nghymru ac fe’i defnyddir yn rheolaidd gan Academi Frenhinol Dawnsio a Chymdeithas Bale Cecchetti. 
  • Oherwydd enw da Casnewydd am gynnal digwyddiadau mawr, fe’i dewiswyd i gynnal Marathon gyntaf Cymru Casnewydd ABP yn 2018, daeth y British Lionhearts i Gasnewydd fel rhan o daith AIBA World Series of Boxing 2018 a chynhaliwyd y Gemau Trawsblaniadau Prydain yng Nghasnewydd ym mis Gorffennaf 2019.

Addysg

  • Mae gan Gasnewydd 2 ysgol feithrin, 44 ysgol gynradd, 9 ysgol uwchradd, 2 ysgol arbennig ac 1 uned cyfeirio disgyblion. 
  • Mae Coleg Gwent yn un o golegau addysg bellach Cymru sydd â’r perfformiad gorau gyda champws yng Nghasnewydd sy’n cynnig cymwysterau galwedigaethol a phrif ffrwd.
  • Mae gan Gasnewydd gampws prifysgol arobryn yng nghanol  ddinas - sy’n rhan o Brifysgol De Cymru.
  • Mae prifysgolion uchel eu parch eraill o fewn 30 milltir i Gasnewydd, sef Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Gorllewin Lloegr. 

 

 

Velodrome Olympics 2 P