Banner image

Tiny Rebel Brewing

Tiny Rebel P

Dewison ni sefydlu ac ehangu ein busnes yng Nghasnewydd am sawl rheswm: yn gyntaf, y lleoliad – a ninnau’n frwd am ein dinas frodorol, roedden ni’n teimlo y byddai lleoli ein hunain yma yn rhoi pwynt gwerthu unigryw i ni gyda chyfle i fod yn rhan o’r gwaith sylweddol i adfywio dinas Casnewydd. Yn gyntaf, mae cysylltiadau trafnidiaeth yn y ddinas yn ddiderfyn – dim ond 2 awr o Lundain a 5 munud o goridor yr M4.   Yn ail (ond yn bendant nid yn ail o ran pwysigrwydd!), y gweithwyr. Ers sefydlu Tiny Rebel, rydym wedi recriwtio a chadw’r gweithlu hynod ffyddlon a brwdfrydig sydd wedi datblygu law yn llaw â’r cwmni.

Bydd Tiny Rebel, sy’n ymfalchïo yn ei wreiddiau Casnewydd, yn parhau i fuddsoddi yn yr economi ffyniannus i wireddu ei lawn botensial. Mae’r dyfodol yn fywiog ac yn gyffrous i Gasnewydd gyda strategaeth fuddsoddi anferthol ar gyfer corfforaethau a BBaChau yn y ddinas.

Mae Casnewydd – trydedd ddinas fwyaf Cymru – yn parhau i ffynnu a datblygu ei phroffil gyda gwaith gweddnewid sylweddol sy’n creu cyfleoedd busnes newydd trwy’r amser. Mae’r ddinas yn parhau i fod yn uchelgeisiol iawn gyda busnesau arloesol yn ceisio byth a beunydd i sefydlu eu hunain yn y ddinas.”

Hannah Williams Prif Swyddog Cyllid, Tiny Rebel

Am fwy o wybodaeth, ewch i Wefan Tiny Rebel:

WHO IS HERE MAP (pdf)

Tiny Rebel Brewery Square 400