Banner image

Vantage

Who is here SQ 400

Sefydlwyd Vantage er mwyn creu campws canolfan data y tu allan i Lundain er mwyn darparu cyfleuster diogel, risg isel ar gyfer y twf byd-eang anferth mewn gwasanaethau TG a data. Fel person sy’n hanu o dde Cymru, roeddwn eisiau sefydlu busnes yn yr ardal erioed.

Bellach mae Vantage yn gweithredu cyfleuster o safon fyd-eang yng Nghasnewydd gyda nifer o gleientiaid o’r radd flaenaf sydd hefyd wedi’u denu i’r lleoliad oherwydd y diogelwch ffisegol mae’r safle yn ei gynnig a’r ardal yn gyffredinol.  Mae Parc Busnes Celtic Springs, gyferbyn ag Vantage, yn datblygu’n gyflym ac rydym eisoes yn gwneud busnes gyda chwmni pwysig sydd yno.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Vantage.