Gallai cais am gyllid drawsnewid porth y ddinas

Mae adfywio'r ddinas yn parhau i fod yn uchel ar restr flaenoriaethau'r cyngor a gallai cais sylweddol am gyllid gan y llywodraeth ein helpu i newid golwg ardal allweddol yng nghanol y ddinas.

Mae'r Cyngor yn gwneud cais am £20m o gyllid cyfalaf o Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU a fyddai, pe bai'n llwyddiannus, yn trawsnewid Porth y Gogledd ymhellach.

Mae nifer o gynlluniau eisoes yn mynd rhagddynt neu ar y gweill yn yr ardal hon, sy'n ymestyn o'r orsaf drenau i ganol y ddinas, gan gynnwys adnewyddu Marchnad Dan Do Casnewydd ac Arcêd y Farchnad, creu canolfan gydweithredol a deorydd yn adeilad yr Orsaf Wybodaeth a darparu pont droed teithio llesol newydd rhwng Devon Place a Queensway.

Byddai'r arian ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i wella'r ardal gyhoeddus – felly pan fydd pobl yn cyrraedd ein dinas maent yn gweld golygfa sy'n adlewyrchu ansawdd y lle, ein huchelgeisiau, ac sy'n gadarnhaol ac yn groesawgar i ymwelwyr a buddsoddwyr fel ei gilydd.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.