£17m i Adfywio Casnewydd Diolch i'r rhaglen Trawsnewid Trefi

O stondinau marchnad dan do ac arcedau siopa i amgueddfa a chanolfan hamdden o'r radd flaenaf, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi gweld yn uniongyrchol sut mae £17m o gyllid Trawsnewid Trefi wedi cael ei ddefnyddio yng Nghasnewydd.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi derbyn y cyllid ers 2018 trwy'r rhaglen Buddsoddi mewn Adfywio wedi'i Dargedu (TRI) a'r rhaglen Trawsnewid Trefi (TT).

Yn ystod yr ymweliad, gwelodd y Gweinidog nifer o brosiectau yn uniongyrchol, yn cynnwys:

  • Y farchnad dan do newydd a gefnogir gan fenthyciad TRI o £2m
  • Y Llyfrgell Ganolog a'r Amgueddfa lle cwblhawyd gwaith adnewyddu ym mis Chwefror diolch i £1.3m o gyllid TT
  • Canolfan Hamdden a Lles Casnewydd gyda chymorth grant TT gwerth £7m
  • Tŵr y Siartwyr, sydd wedi'i droi'n westy pedair seren diolch i fwy na £600k o gyllid TRI
  • Arcêd y Farchnad sydd yn adeilad rhestredig Gradd II a ailddatblygwyd gydag £1.2m o gyllid grant TT

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

"Roedd yn wych ymweld â Chasnewydd i weld yr effaith gadarnhaol y mae cyllid wedi'i chael ar ganol y ddinas.

"Rydym eisiau i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru fod yn galon i gymunedau Cymru, lle gall pobl fanteisio ar wasanaethau, siopau, mannau cymunedol a diwylliannol.

"Mae adfywio canol ein trefi yn gymhleth a dim ond os oes gennym ddealltwriaeth ar y cyd o'r materion sy'n eu hwynebu y bydd hynny’n digwydd. Mae'r rhain yn cynnwys y cynnydd mewn datblygiad y tu allan i drefi sy'n dibynnu ar drafnidiaeth car preifat, y twf mewn siopa ar-lein, a thynnu gwasanaethau hanfodol yn ôl.

"Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi wedi'i chynllunio i helpu i wrthdroi'r dirywiad hwn, gyda £125 miliwn dros dair blynedd i ailddyfeisio trefi ledled Cymru."

Cyfeiriad: - Business News Wales 18 Hydref 2023

Newport Market