banner image

Gweledigaeth ddiwylliannol

Mae Casnewydd yn ddinas sydd â thraddodiad diwylliannol a threftadaeth balch.

Ni yw'r porth i dde Cymru, gyda chymunedau'n amrywiol ac yn gyfoethog o ran diwylliant, traddodiad ac iaith.

Yr ydym hefyd yn rhan o ranbarth ehangach, a elwid gynt fel Gwent, lle mae cysylltiad anorfod rhwng ein gorffennol, ein presennol a'n dyfodol. Rydym yn rhannu hanes cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sy'n seiliedig ar ein treftadaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol. 

Nod ein cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025 oedd manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at yr hyn sydd gan ein dinas a'n rhanbarth i'w gynnig a'i ddefnyddio fel sbardun ar gyfer newid.

Er nad yw wedi symud ymlaen heibio'r cam datganiad o ddiddordeb, nid yw'r stori ar gyfer Casnewydd ar ben.

Cafwyd cymorth sylweddol gan bartneriaid a sefydliadau mawr a bach. Mae'n dangos pa mor angerddol yw pobl am ein dinas a thrwy gydweithio gallwn gyflawni hyd yn oed mwy o bethau.

Bydd y gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau a'r berthynas sydd wedi'i chreu o ganlyniad i'r broses hon yn cael eu defnyddio fel sbardun i ddatblygu ein partneriaethau diwylliannol a'n harlwy ehangach ymhellach yng Nghasnewydd.

O aneddiadau Rhufeinig a Normanaidd, treftadaeth ddiwydiannol a adeiladwyd ar lo, haearn a dur, Safle Treftadaeth y Byd, datblygiad democratiaeth drwy fudiadau’r siartwyr a’r swffragetiaid, i fan geni'r GIG. Mae ein daearyddiaeth a'n tirwedd unigryw, wedi'u fframio gan ein treftadaeth ddiwydiannol a morol, wedi llunio ein hanes a'n diwylliant cyffredin. 

Rydym am ddathlu popeth sydd gennym i'w gynnig ond hefyd herio a newid barn pobl i addysgu'r byd am ein diwylliant unigryw a'n hanes hir. 

Rydyn ni am i bobl wybod am y frwydr dros hawliau democrataidd yma yng Ngwent.  Rydyn ni am adrodd straeon pobl o bob cwr o'r byd sydd wedi dewis Casnewydd fel eu cartref drwy gydol y canrifoedd.

Byddwn yn dathlu'r aber a'r gwastadeddau, a'r bobl gynnar yr ydym yn dilyn eu hôl troed ac yn dal i allu eu gweld ar gadw ym mwd yr aber heddiw.

Rydyn ni am helpu i hybu ac annog angerdd Casnewydd dros gerddoriaeth, celf a thalent gynhenid – i glywed barddoniaeth, perfformiadau a cherddoriaeth yn deillio o'n sefydliadau mawr a bach.

Mae gan theatr a chelf fachyn cryf yn y ddinas a'r rhanbarth – theatr gyflwyno broffesiynol, dawns genedlaethol, theatr amatur a chwmnïau sydd â pherfformiad, addysg a chymuned wrth eu calon. Ond bydd is-grŵp celfyddydau a diwylliant newydd yn gyrru'r arlwy yn ei flaen ac yn sicrhau gwell mynediad ac atyniad i bawb.

Mae ein treftadaeth chwaraeon a'n harlwy hefyd yn bwysig i'r ddinas a'r rhanbarth.

Mae Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd yn gartref i Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas ac mae wedi cynnal timau Olympaidd a Pharalympaidd a llawer o athletwyr o'r radd flaenaf.

Rydym yn gartref i'r Dreigiau – un o bedwar tîm rhanbarthol rygbi'r undeb proffesiynol yng Nghymru a CPD Casnewydd, a elwir yr Alltudion, yn cystadlu yng Nghynghrair Dau’r EFL.  

Mae chwaraewyr a hyfforddwyr pêl-droed gorau Cymru ynghyd â phobl ifanc frwd yn hogi eu sgiliau ym Mharc y Ddraig Cymdeithas Pêl-droed Cymru, y Ganolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol.

Mae pencadlys Ballet Cymru yng Nghasnewydd. Mae’r stiwdio’n cynnwys un o’r ardaloedd dawnsio mwyaf yng Nghymru ac fe’i defnyddir yn rheolaidd gan Academi Frenhinol Dawnsio a Chymdeithas Bale Cecchetti 

Ond yn bwysicaf oll o bosib, mae chwaraeon ar lawr gwlad wrth wraidd ein gwaith ymgysylltu a datblygu cymunedol – gan ddod â chymunedau a chenedlaethau at ei gilydd.

Mae enw da gan Gasnewydd am gynnal digwyddiadau mawr gan gynnwys Cwpan Ryder, Uwchgynhadledd Nato ac A Tour of Britain, ac arweiniodd hyn at ein dewis ar gyfer Marathon cyntaf ABP Casnewydd Cymru yn 2018 a Gemau Trawsblannu Prydain yn 2019. Ledled Gwent rydym yn cynnal digwyddiadau o fri cenedlaethol gan gynnwys Gŵyl Gaws Fawr Caerffili a Gŵyl Fwyd y Fenni. 

Mae canol dinas Casnewydd, fel llawer, yn chwilio am rôl newydd yn yr economi ôl-fanwerthu.  Byddwn yn defnyddio'r fenter hon i newid ein gofodau ac i feithrin amgylchedd masnachol a chymunedol newydd a rennir gyda mwy o ffocws ar ddiwydiannau creadigol, busnesau bach ac annibynnol, wedi'u cyfosod â byw yng nghanol y ddinas.  

Mae Casnewydd eisoes yn cymryd camau tuag at y nod hwn drwy ei hadfywiad, lleoliad busnesau technoleg, datblygu mannau deor busnesau, darpariaeth hamdden newydd yng nghanol y ddinas ac ailddatblygu'r hen farchnad.

Ond rydym am greu llwyfan cryfach i sefydliadau â chydfuddiannau gydweithredu yn hytrach na chystadlu am adnoddau. I ddatblygu rhaglen weithredu a rennir, gan gynllunio gyda'n gilydd i hyrwyddo pwysigrwydd ein cyfoeth diwylliannol i drigolion a'r byd ehangach.

Meysydd dan sylw

  • Ein cymunedau ethnig amrywiol a'n hiaith, gan gynnwys y Gymraeg, a sut y gall cyfranogiad a llwyfannau digidol alluogi cymunedau i ddod at ei gilydd i barchu a dathlu ein holl ddiwylliannau. 
  • Ein hunaniaeth hanesyddol ac adrodd stori sy'n ehangach na Chasnewydd – rhoi hwb i dwristiaeth a'n helpu i adfywio'r ddinas a'r rhanbarth ehangach.  
  • Ein stori am 'ddinas ddiwydiannol i ddinas ddata' sy'n dangos sut rydym wedi ymateb i newidiadau mewn diwydiant tra'n cynnal ein hunaniaeth hanesyddol gyfoethog – glasbrint ar gyfer dinas-ranbarth fodern. 
  • Celfyddydau, cerddoriaeth, chwaraeon a'r cyfryngau – cydnabod a hyrwyddo ein rhagoriaeth mewn llenyddiaeth a chelf a'i gwneud yn fwy hygyrch i bawb.   Arddangos ein gorffennol cerddorol cyfoethog a chefnogi cenhedlaeth newydd o bobl greadigol mewn cerddoriaeth a'r cyfryngau.
  • Teithio llesol a newid yn yr hinsawdd – cysylltu ein hasedau treftadaeth ar draws rhanbarth Gwent â llwybrau teithio llesol – gan sicrhau cynaliadwyedd a mynediad i genedlaethau'r dyfodol.
  • Addysg arloesol - datblygu partneriaethau traws-sector newydd, gan gynnwys archwilio cydweithio rhwng gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg, y celfyddydau a diwylliant.