banner image

Partneriaid a phroses

Proses

Mae'r gystadleuaeth i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025 yn cael ei rhedeg gan y Llywodraeth bob pedair blynedd.

Ar gyfer 2025 yn benodol, bydd yn defnyddio diwylliant fel catalydd ar gyfer codi’r gwastad ymhlith ardaloedd y tu allan i Lundain ac yn rhoi diwylliant wrth wraidd cynlluniau i wella o effaith pandemig Covid-19.

Mae'r rhaglen yn annog y defnydd o ddiwylliant a chreadigrwydd i hyrwyddo datblygiad partneriaethau newydd, i annog uchelgais, arloesedd ac ysbrydoliaeth mewn gweithgarwch diwylliannol a chreadigol, i sbarduno adfywio a gadael etifeddiaeth barhaol. 

Bydd yr enillydd newydd yn olynu Coventry ac yn ganolog i sbotolau diwylliannol y DU am flwyddyn.

Cyflwynodd Casnewydd a rhanbarth Gwent ddatganiad o ddiddordeb ond yn anffodus nid oeddent yn llwyddiannus o ran symud ymlaen i gam nesaf y broses ymgeisio.

Fodd bynnag, nod ein cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025 oedd manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at yr hyn sydd gan ein dinas a'n rhanbarth i'w gynnig a'i ddefnyddio fel sbardun ar gyfer newid.

Cafwyd cymorth sylweddol gan bartneriaid a sefydliadau mawr a bach. Mae'n dangos pa mor angerddol yw pobl am ein dinas a thrwy gydweithio gallwn gyflawni hyd yn oed mwy o bethau.

Bydd y gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau a'r berthynas sydd wedi'i chreu o ganlyniad i'r broses hon yn cael eu defnyddio fel sbardun i ddatblygu ein partneriaethau diwylliannol a'n harlwy ehangach ymhellach yng Nghasnewydd.

Partneriaid

Darllenwch y llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol oddi wrth Arweinwyr awdurdod lleol Gwent

Elfen allweddol o'r prosiect hwn yw gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat, elusennau a gwirfoddolwyr – yn dod at ei gilydd i sicrhau'r manteision mwyaf posibl i'r ddinas a'r rhanbarth.

Mae gennym hanes cryf o weithio mewn partneriaeth a sicrhau gwelliannau i'n hamgylchedd a'n cymunedau.  Rydym yn ceisio manteisio ar bob cyfle i hybu hyder a balchder yn ein cymunedau.

Ar hyn o bryd, rydym eisoes yn cael cryn gefnogaeth gan rai o'n partneriaid allweddol gan gynnwys: 

Darllenwch rai o'n llythyrau o gefnogaeth 

Os ydym yn ddigon ffodus i symud ymlaen i gam nesaf y broses gynnig, bydd ehangu'r cysylltiadau hynny a harneisio syniadau a brwdfrydedd sefydliadau ar draws y ddinas a'r rhanbarth yn hollbwysig i ni gyflwyno rhaglen ymgeisio a digwyddiadau lwyddiannus.

Cofrestrwch eich diddordeb neu gofynnwch am ragor o wybodaeth

Dangoswch eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol #Casnewydd25