banner image

Canolfan Hamdden Newydd

Disgwylir i ganolfan hamdden newydd gael ei chodi ar safle glan afon allweddol yng nghanol y ddinas gan gynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i drigolion.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr adeilad newydd yn amgylcheddol gynaliadwy ac yn bodloni'r safonau uchaf posibl.

Rhoddodd y Cabinet sêl bendith i'r prosiect cyffrous gwerth £20 miliwn yn gynnar yn 2021 yn dilyn ymateb cadarnhaol i ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae cynllun y ganolfan hamdden wedi sicrhau £7 miliwn o gyllid trawsnewid trefi Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar ailddatblygu a gwella trefi a dinasoedd.

Bydd hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu safle presennol y ganolfan hamdden ar gyfer adeiladu campws coleg newydd, yn agos at Brifysgol De Cymru, gan greu Cwr Gwybodaeth Casnewydd.

Bydd Coleg Gwent yn symud i gyfleuster addysg bellach newydd sbon a ddarperir o dan raglen ysgolion a cholegau'r 21ain ganrif.

Gyda'i gilydd, bydd y ganolfan newydd a'r campws yn cynrychioli buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yng Nghasnewydd a chanol y ddinas a arweinir gan y sector cyhoeddus, gan wella bywydau trigolion yn ogystal â dod â manteision adfywio ac economaidd ehangach.

Mae’r cynigion a dyluniadau terfynol bellach ar waith cyn cyflwyno’r cais cynllunio llawn a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni.

Gweld cynlluniau a darganfod mwy