Banner image

Rhestrau teithio i grwpiau

Transporter Bridge Day P

Rhaglenni teithio a syniadau a awgrymir ar gyfer diwrnodau a phenwythnosau gwych yn ne-ddwyrain Cymru. 

Rhaglen Deithio 1 - Hynafol a Modern

Cafodd cyrion pellach yr Ymerodraeth Rufeinig, Caerllion eu meddiannu gan Ail Leng Awgwstws am 200 mlynedd fel un o’r unig dri chaer lleng parhaol ym Mhrydain, y lleill oedd Caerefrog a Chaerllion Fawr.

Camwch yn ôl mewn amser yn Amgueddfa’r Lleng Rufeinig Caer a Baddonau Rhufeinig a’r Amffitheatr, a byddwch yn gweld beth sy’n gwneud Caerllion y safle Rhufeinig mwyaf amrywiol ym Mhrydain heddiw. 

Mwynhewch ginio mewn un o’r tafarndai hanesyddol yn y pentref, megis yr Hanbury Arms neu Gwesty’r Priory ac ewch i weld rhai o’r siopau crefft lleol.

Mae rhagor o gyfleoedd am therapi siopa ar gael yn Friars Walk yn nghanol dinas Casnewydd, lle cewch ddigonedd o ddewis mewn bwytai cadwyn ac annibynnol.

Parcio i fysus am ddim a ffyrdd hawdd eu cerdded yng Nghaerllion, yn ogystal â phwyntiau gollwng i fysus yng nghanol dinas Casnewydd.

Rhaglen Deithio 2 - Treftadaeth Anhygoel

Reidiwch gondola dros yr Afon Wysg ar y Bont Gludo fyd-enwog o oes Edward, un o ddim ond chwech sy’n dal i weithio yn y byd.

Ewch i weld y peiriannau yn y tŷ injan a dringwch i ben y llwybr cerdded i fwynhau golygfeydd ar draws y ddinas a’r cefn gwlad o’i hamgylch.

Gwobrwywch eich hunain gyda chinio blasus gyferbyn â’r Bont yn y Gwesty Waterloo hanesyddol, oedd yn berchen ar far hiraf y byd ar un adeg. 

Cymerwch brynhawn i fwynhau taith ‘Y Tu ôl i’r Llenni’ o Dŷ Tredegar mawreddog a godidog.

Roedd y plasty sydd wedi ei adfer yn un o wyrthiau pensaernïol Cymru, ac yn gartref i’r teulu ecsentrig Morgan am oddeutu 500 mlynedd ac mae nawr yn cael ei gadw gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dewch i orffen eich ymweliad yn y Caffi Brewhouse

Mae parcio am ddim a disgowntiau i grwpiau yn y Bont Gludo ac yn Nhŷ Tredegar, ynghyd a thaleb i’r ystafell de yn Nhŷ Tredegar. 

Rhaglen Deithio 3 - Treftadaeth Ddiwydiannol a Chwrw!

Dewch i weld y dreftadaeth drawiadol peirianneg a diwydiant yn y Ganolfan Gamlas Fourteen Locks, lle mae’r lociau yn cyrraedd uchder o 160 troedfedd mewn hanner milltir yn unig.

Gwrandewch ar un o’r tywyswyr gwybyddus yn adrodd hanes y lociau a gwelwch y gwaith adfer ar y lociau yn ystod eich taith ar hyd y gamlas. 

Dim ond milltir ymhellach, ewch i ymweld â Tiny Rebel Brewery i ginio, taith o amgylch y Bragdy a’ch cyfle i roi cynnig ar Cwtch, Cwrw Pencampwr Prydain Fawr 2015!

Mae parcio am ddim yn Tiny Rebel, mae parcio hefyd ar gael ger Fourteen Locks, mae ffioedd dan adolygiad ar hyn o bryd

Rhaglen Deithio 4 - Y Byd Gwyllt

Ewch ar daith dywys ar hyd darn o’Lwybr Arfordir Cymru, y llwybr cyntaf i gwmpasu gwlad gyfan, ac sydd wedi’i wobrwyo Rhanbarth Gorau’r Byd yn Llyfr Tywys Lonely Planet 2012.

Mae’r llwybr arfordir yn croesi Gwarchodfa RSPB Gwlypdiroedd Casnewydd, hafan bywyd gwyllt, gyda rhywogaethau prin sy’n denu gwylwyr adar o bob cwr o’r wlad a thu hwnt.

Mwynhewch y golygfeydd di-dor ar draws Aber Afon Hafren, sydd â’r ystod llanw ail uchaf yn y byd.

Ymlaciwch dros ginio wrth wylio’r bywyd gwyllt o’r ardal wylio wydr yng nghaffi’r Warchodfa, neu ewch i un o’r tafarndai hanesyddol ar Gwastadeddau Gwent hanesyddol am ginio cysurus ger y tân.

Rhowch gynnig ar y Rose Inn yn y Redwig, neu’r Waterloo Inn yn Nhrefonnen, lle gallwch flasu yr IPA lleol Stank Hen, wedi ei enwi yn ôl yr iâr ddŵr ac wedi ei fragu ar y Gwastadeddau ers 2012.

Ar ôl cinio, ewch i ymweld â Gerddi Dewstow, a grëwyd oddeutu 1895, wedi’u claddu dan dunelli o bridd yn syth ar ôl y r Ail Ryfel Byd, ac wedi’u hailddarganfod yn 2000. Darganfyddwch labrinth o ogofau, twnelau a rhedynfeydd dan ddaear.

Parcio ar gael yn Ngwarchodfa Gwlypdiroedd Casnewydd, ffi £3, parcio am ddim yng Ngerddi Dewstow gyda chyfradd fynediad ostyngedig i grwpiau a mynediad am ddim i’r gyrrwr a’r cludwr.

I gael help i drefnu eich grŵp neu eich taith, e-bostiwch tourism@newport.gov.uk neu ffoniwch +44(0)1633 233663

Famil at Tredegar House P