banner image

Bwyta ac yfed

Celtic Manor Resort

Gwesty Casnewydd sydd wedi ennill gwobrau niferus, a fu’n lleoliad ar gyfer Cwpan Ryder 2010, ac sy’n cynnig nifer o opsiynau bwyta.

Marchnad Casnewydd

Bellach yn ardal olau a chynaliadwy i fwyta, yfed, siopa a gweithio, mae’r Farchnad Casnewydd yn cynnig amrywiaeth adfywiol o fasnachwyr, mannau digwyddiadau a bwytai.

Hatti

Ty bwyta Indiaidd yng nghanol y ddinas sy’n gweini bwyd sy’n cynnig gwir flas ar goginio’r is-gyfandir

The Bell, Caerleon

Tafarn cysurus a thraddodiadol wrth galon hen bentref Caerllion, ar Lwybr Cerdded Dyffryn Wysg.

The Pod

Sefydliad unigryw sy’n cynnig bwyd stryd blasus ar fyrddau rhannu a choctels bendigedig.

Gwesty’r Priory, Caerllion

Gwesty a thŷ bwyta llawn cymeriad wrth galon Caerllion hanesyddol, yn gweini detholiad mawr o bysgod a chig lleol mewn awyrgylch hyfryd.

Tiny Rebel

Bragdy a bar lleol hynod boblogaidd yn gweini eu cwrw eu hunain, sydd wedi ennill gwobrau, a byrgyrs, nachos, pizzas a chiniawau dydd Sul - a chyfle i fynd ar daith o gwmpas y bragdy hefyd os dymunwch.

Gwesty a Bistro’r Waterloo

Gwesty a thŷ bwyta smart mewn adeilad rhestredig Gradd II, ger Pont Gludo adnabyddus Casnewydd.

Arobryn

Mae nifer fawr o fannau bwyta ac yfed Casnewydd wedi ennill gwobrau, Gwesty’r Priory, Tiny Rebel a The Cellar yn eu plith.

Prydeinig a Chymreig Modern

Mae Casnewydd wedi cofleidio’r ethos bwyd araf, cynnyrch lleol, ac yn frwd iawn dros ddefnyddio cynnyrch lleol penigamp yr ardal

Mor y Canoldir

Cyfle i gael blas ar gynhesrwydd, arogleuon a blasau Môr y Canoldir yng Nghasnewydd

Caffis ac ystafelloedd te

Brecwast mawr i roi cychwyn da i’ch diwrnod, neu ginio ysgafn neu de prynhawn efallai? Mae’r cyfan ar gael yng nghaffis ac ystafelloedd te Casnewydd!

Bwyd y byd

Bwyd a diod o India, yr Unol Daleithiau, de a chanolbarth America a mwy.

Traddodiadol a Thafarnau

Prydau rhost traddodiadol, prydau tafarn a snaciau a phrydau cartref eraill.

Bwytai gwestyau

Bwyd a diod yng ngwestyau poblogaidd Casnewydd a’r cyffiniau

9231c395-fb40-409c-beec-04f43cc0facd
15 entries - 1 pages