Banner image

Cycle Newport

Cycling canal Square 400

Mae pedwar Llwybr Beicio Cenedlaethol yn mynd drwy Gasnewydd: 

  • Mae Llwybr 4 a Llwybr 47 yn rhan o’r Llwybr Celtaidd 
  • Mae Llwybr 46  yn rhan o Lwybr Blaenau'r Cymoedd ar hyd Camlas Sir Fynwy   a Brycheiniog
  • Llwybr 88  yw’r un o ganol dinas Casnewydd i Gaerllion, ar lan afon ac yn wastad ar y cyfan, gan gysylltu canol Casnewydd gyda Malpas, Caerllion a’r wlad o amgylch.

Dyma fap beicio rhyngweithiol o dde ddwyrain Cymru  gyda gwybodaeth am leoedd i ymweld â nhw ag aros ynddynt.  

Mae llwybr beicio yn cysylltu Casnewydd a Chaerdydd - mae’n llwybr oddi ar y ffordd yn rhannol ac yn cysylltu’n uniongyrchol â Thŷ Tredegar a Llwybr Arfordir Cymru.

Lawrlwythwch fap llwybr beicio Casnewydd-Caerdydd    

Ewch i Beicio Casnewydd Cyced am ragor o lwybrau beicio lleol, cefnogaeth i glybiau ac adnoddau.

Llwybrau beicio yn Ne Ddwyrain Cymru

Taflen llwybrau beicio treftadaeth (pdf)

Taflen llwybrau beicio i deuluoedd (pdf)

Taflen parciau beic a llwybrau MTB (pdf)

Taflen llwybrau ar y ffordd ac oddi ar y ffordd (pdf) 

Llogi beic

Llogwch feiciau a helmedau i oedolion a phlant gan Feiciau Dinas Casnewydd, sydd a’u canolfan yn Nhŷ Tredegar. 

Cewch gyngor am y llwybrau gorau i chi ac fe wnân nhw gludo beiciau i’ch llety.

Ffoniwch 07538 721922 am fanylion neu i archebu.

Beicio Trac

Rhowch gynnig ar feicio trac yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas.

Cynlluniwch o flaen llaw ac archebwch drwy ffonio (01633) 656757

Cycling along the Monmouthshire and Brecon Canal Square 400