Banner image

Cerdded Casnewydd

Walking Square 400

Mae nifer o lwybrau cerdded yng Nghasnewydd  i bobl o bob lefel o ffitrwydd a gallu.

I gerddwyr profiadol, mae llwybrau cerdded hir gan gynnwys Llwybr Dyffryn Wysg  sy’n 48 milltir o hyd, a Llwybr Cwm Sirhywi sy’n 27 milltir o hyd.

Mae 23 milltir o Lwybr Arfordir Cymru yn mynd drwy Gasnewydd ac mae’n llwybr amrywiol iawn, o warchodfa natur i lan yr afon ynghanol y ddinas - pa ddarn fyddwch chi’n ei ddewis?

Lawrlwythwch ganllaw i Lwybr Arfordir Cymru (pdf).

Ewch i Wefan Llwybr Arfordir Cymru am ragor o wybodaeth, gan gynnwys mapiau i’w lawrlwytho.

Mae croeso i gŵn ond rhaid iddynt fod ar dennyn.

Llwybr Casnewydd o’r Ddinas i’r Môr

Agorodd Llwybr Casnewydd o’r Ddinas i’r Môr ym Mai 2012 fel rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Mae llethrau, camfeydd, grisiau a thri anwastad ar hyd y llwybr 8 cilomedr.

Mae modd parcio ar hyd Stephenson Street neu ym maes parcio Gwlypdiroedd Casnewydd.

Taith Gylchol y Bont Haearn

Lawrlwythwch ac argraffwch daflen Llwybr Cylchol y Bont Haearn  (pdf) am lwybr y gallwch ei ddilyn eich hunan yn ardal drawiadol Draethen, Castell Rhiw’r-Perrai a Machen. 

Llwybrau Beicio

Mae nifer o lwybrau beicio Casnewydd hefyd yn wych ar gyfer cerddwyr ac yn mynd drwy ardaloedd gwledig a dinesig.

Llwybrau yn y wlad

Datblygwyd y llwybrau hyn ag arwyddion gan staff y cyngor ac maen nhw’n cynnwys rhai camfeydd, llethrau mwy serth a thir anwastad.

Argymhellir i chi wisgo esgidiau cadarn neu fŵts cerdded a’ch bod yn cario potel o ddŵr a ffôn symudol.

Lawrlwythwch y Ffolder llwybrau gwledig (pdf) a’r Taflenni llwybrau gwledig (pdf).

Lawrlwythwch gyfres Cerddwn yng Nghasnewydd: 

Llwybrau Byrion i Draed Bychain  (pdf)

Llwybrau i Ddechreuwyr (pdf)

Llwybrau Her i'r Iechyd  (pdf)

Ramblers De Gwent

Mae’r grŵp cerdded lleol hwn yn trefnu teithiau cerdded wedi’u tywys, o deithiau hawdd hamddenol i ddiwrnod yn y bryniau.  

Mae ‘na deithiau bob dydd Sul o’r flwyddyn ac yn ystod yr wythnos gyda’r nos yn yr haf.

Ewch i wefan Ramblers De Gwent.

family walking Square 400