banner image

Pont Gludo Casnewydd

Yn un drysorau hanes y ddinas, mae Pont Gludo Casnewydd yn  dominyddu nenlen Casnewydd.

Wedi'i chodi ym 1906 i gysylltu'r dref â'r diwydiannau a oedd yn clystyru i'r dwyrain o'r afon, mae'r bont yn un o ddim ond chwe phont gludo sy'n parhau i gael eu defnyddio ledled y byd. 

Mae'r bont heddiw yn ein hatgoffa o'n treftadaeth a'n gorffennol diwydiannol. Ond mae ganddi rôl allweddol i'w chwarae hefyd yn nyfodol y ddinas.

Project Trawsnewid

Bydd prosiect trawsnewid Pont Gludo Casnewydd yn cadw a diogelu'r bont fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ryfeddu at ei maint a’i hysblander, a gwneud ei hanes yn hygyrch i gynulleidfa ehangach.

Dan arweiniad Cyngor Dinas Casnewydd, bydd y prosiect yn gwneud gwaith adfer hanfodol i'r bont, ynghyd ag agor canolfan ymwelwyr newydd sbon fydd yn troi'r bont yn atyniad pwysig i dwristiaid.

Bydd y ganolfan newydd, wedi ei chysylltu â’r bont gan lwybr cerdded, yn dod â hanes y bont yn fyw drwy arddangos straeon personol y rhai a gynlluniodd ac a adeiladodd y bont, a’r sawl oedd yn ei defnyddio. 

Bydd gan y ganolfan gyfleusterau gwell hefyd, a mannau cymunedol a fydd yn gartref i raglenni gweithgareddau fel perfformiadau theatrig ac arddangosfeydd celf.