banner image

Eiddo Masnachol

Who is here SQ 400
Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi (pdf)
Eiddo Masnachol
  • Rydym yn darparu cronfa ddata gynhwysfawr o adeiladau diwydiannol, eiddo swyddfa a safleoedd manwerthu ar gais a gellir trefnu mynd i weld eiddo preifat ac adeiladau sy’n eiddo i’r cyngor.
  • Mae prisiau tir a rhenti swyddfa a diwydiannol yn gystadleuol iawn yng Nghasnewydd, gan fod y ddinas yn agos iawn at goridor yr M4.  
  • Mae’r rhenti uchaf yng Nghasnewydd ar gyfer gofodau swyddfa a diwydiannol yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Caerdydd, Bryste a Llundain.
  • Mae datblygiadau newydd yn digwydd ger yr M4 ac o amgylch canol y ddinas fel rhan o gynllun adfywio'r ddinas.
  • Mae gan Gasnewydd ystod eang o barciau busnes a gwyddoniaeth, ystadau diwydiannol a safleoedd eraill ar gael i'w datblygu.
  • Gyda'u gwybodaeth fanwl am farchnad eiddo masnachol Casnewydd, bydd ein cynghorwyr medrus yn eich helpu i ddod o hyd i'r adeilad mwyaf addas ar gyfer eich busnes.
Parciau Busnes

Mae parciau busnes o'r safon uchaf mewn lleoliadau gwych:

Sectorau

Mae gan Gasnewydd:

  • clwstwr sefydledig o fusnesau technoleg
  • sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol sy’n tyfu
  • cysylltiadau trafnidiaeth gwych ar gyfer gweithrediadau dosbarthu a logisteg
  • diwydiant gweithgynhyrchu sy’n mynd o nerth i nerth 

E-bostiwch business.services@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656 i drafod eich anghenion busnes

Development Opportunities Square 400