Cyngor cyffredinol
Rydym yn darparu cefnogaeth gyfrinachol am ddim cyn, yn ystod ac ar ôl i fusnes benderfynu sefydlu ei hun yng Nghasnewydd. Rydym yn cynnig dull cydlynol 'un stop' sy'n ymwneud â sefydliadau cyhoeddus a phreifat.
Bydd cynghorwyr medrus yn helpu i ddod o hyd i adeiladau addas, eich tywys trwy reoliadau cysylltiedig â'r cyngor, rhoi cymorth ynghylch cael gafael ar gymorth ariannol, a helpu i gael gafael ar gyngor arbenigol gan asiantaethau partner.
Gallwn roi busnesau mewn cysylltiad ag eraill sydd eisoes wedi llwyddo i symud a chynghori ar gyfleoedd i rwydweithio busnes.
Ebostiwch business.services@newport.gov.ukneu ffoniwch (01633) 656656 i drafod eich anghenion busnes.
Eiddo gwag canol y ddinas
Efallai eich bod wedi sylwi bod rhai eiddo gwag yng Nghanol y Ddinas wedi cael eu gweddnewid ychydig. Gan weithio gyda AGB Casnewydd Nawr, a gyda chyllid gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi defnyddio gwaith celf gan blant ysgolion lleol i greu dyluniadau ar gyfer prosiect gwisgo siop. Mae'r dyluniadau, sydd â themâu Casnewydd gyda'r lluniau i blant wedi'u hymgorffori ynddynt, wedi'u gosod mewn siopau gwag drwy ganol y ddinas. Mae'n rhan o ymgyrch y Cyngor i wneud Canol y Ddinas yn lle mwy deniadol i ymweld â hi, byw a gweithio, a gobeithio y bydd yn ysbrydoli pobl i edrych eto ar y gofodau hyn ac ystyried defnyddiau newydd i rai o'r unedau.
Cadwch lygad yma am fanylion cystadleuaeth gyffrous lle byddwch yn gallu pleidleisio dros eich hoff lun.
Os oes gennych gwestiynau ynghylch unrhyw un o'r eiddo, cysylltwch â'r asiantau/datblygwyr a nodir ar y gwaith celf, neu cysylltwch â Thîm Datblygu Economaidd Cyngor Dinas Casnewydd yn business.services@newport.gov.uk