banner image

Cyfleoedd Datblygu

Development Opportunities Square 400
Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi (pdf)

 

Detholiad o gyfleoedd datblygu Casnewydd

Mae prosiect adfywio mawr yn trawsnewid safle blaenorol Gweithfeydd Dur Llanwern yn nwyrain y ddinas yn barc busnes a chymunedol newydd gyda chartrefi ac ysgol gynradd newydd a gorsaf drenau arfaethedig.  Mae Ardal Ehangu'r Dwyrain wedi'i chysylltu drwy'r A4810 â Ffordd Ddosbarthu’r De’r M4 a'r A48 ac mae'r unedau cyflogaeth a adeiladwyd hyd yma, sydd mewn lleoliad delfrydol, yn cynnwys canolfan ar gyfer Amazon.  Ceir capasiti sylweddol ar gyfer buddsoddiad pellach ar gyfer datblygiadau preswyl a rhai masnachol.

Mae gan safle 43 hectar Solutia gysylltiadau gwych â Ffordd Ddosbarthu’r De a Phorthladd Casnewydd, mewn lleoliad strategol ardderchog ac mae wedi’i nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer defnyddiau B1, B2 a B8. Mae’r safle yn agos at Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd sy’n rhoi posibilrwydd o ddefnydd hamdden iddo hefyd.

Mae Porthladd Casnewydd yn darparu pwynt mynediad môr dwfn i gludo nwyddau a gan mai’r porthladd agosaf yn Ne Cymru i'r ffin ydyw, mae mewn sefyllfa dda i ddarparu cyflogaeth sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd gyda chysylltiadau rheilffordd a ffyrdd. Mae’r safle yn borthladd gweithredol sydd wedi’i gefnogi yn y Cynllun Datblygu Lleol i’w ddatblygu.  

Mae Cam II Canolfan Cambrian yn rhoi cyfle ar gyfer datblygiad masnachol a busnes defnydd cymysg yng nghanol ardal Porth Gogleddol canol y ddinas sy'n elwa ar fod yn agos at yr orsaf reilffordd a adnewyddwyd yn ddiweddar ochr yn ochr â'r adeilad Admiral Insurance cyfagos.

Cynigion Canol y Ddinas

Yn rhan o waith dwys ac ymroddedig, cam nesaf y gwaith o adfywio canol y ddinas yw datblygu uwchgynllun ar gyfer canol Casnewydd.  Bydd yn amlinellu strategaethau a blaenoriaethau tymor byr, canolig a hir sy’n hanfodol i sicrhau mai Casnewydd yw’r lle gorau i fyw, gweithio, ymweld a gwneud busnes.

Nododd Uwchgynllun Canol y Ddinas dair ardal a safle allweddol yng nghanol y ddinas:

Ardal 1 – Porth y Gogledd

Yn gartref i orsaf drenau Casnewydd a gyda chysylltedd gwych, mae’r ardal hon yn ddelfrydol ar gyfer twf busnes o werth mawr yn y sectorau Technolegol, Digidol a Phroffesiynol.  Bydd datblygu swyddfeydd o ansawdd ac ardal gyhoeddus well trwy fuddsoddiadau seilwaith yn helpu i fanteisio i’r eithaf ar botensial yr ardal.

Ardal 2 – Ardal Graidd y Ddinas

Dyma ganolfan fanwerthu hanesyddol y ddinas, ac mae ganddi dreftadaeth bensaernïol gyfoethog rydym am ei diogelu a’i dathlu tra’n creu amgylchedd modern o ansawdd.   Mae’r ffaith bod y sector manwerthu’n lleihau yn cynnig cyfle i ddatblygu economi gymysg yn yr ardal hon, gydag ystod amrywiol o weithgareddau a chynlluniau byw canol y ddinas. Bydd cyflwyno chwarter gwybodaeth ar hyd glan yr afon a datblygu prosiectau adeiladu allweddol megis cynllun gwesty cyffrous Mercure Tŵr y Siartwyr yn agor yr ardal ac yn creu amgylchedd mwy deniadol i ymwelwyr.

Ardal 3 – Glan yr afon

Mae ardal Glan yr afon Casnewydd yn addasu i waith datblygu asedau hamdden a chwaraeon y ddinas, megis Theatr Glan yr Afon a stadiwm Rodney Parade, ac ailgysylltiad ag Afon Wysg.

 

E-bostiwch business.services@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656 i drafod eich anghenion busnes 

Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi

Newport Sea Port P