banner image

Datblygiadau a Gwblhawyd

Friars Walk Usk Plaza looking towards river and bridge higher res P
Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi (pdf)

 

Cynlluniau Casnewydd - Wedi'u cwblhau

Mae gorsaf reilffordd newydd, campws prifysgol arobryn o'r radd flaenaf, adeiladau busnes o'r radd flaenaf, datblygiadau tai ar lan yr afon, pensaernïaeth eiconig a Chanolfan Siopa Friars Walk fodern oll wedi’u cyflawni trwy ein cynlluniau parhaus i adfywio a gwella cynnig canol y ddinas, gyda'r nod o greu'r amodau sy'n cefnogi buddsoddiad a thrawsnewidiad yn y dyfodol.

Yn 2017 llwyddodd Cyngor dinas Casnewydd i gwblhau ei raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid gwerth £22m, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, y rhaglen fwyaf o'r fath yng Nghymru, gan drawsnewid adeiladau gwag a thirnodau canol y ddinas yn llety a gofod busnes deniadol newydd.  Ymhlith y cynlluniau niferus a gwblhawyd drwy'r rhaglen yr oedd y cynllun Central View blaenllaw gwerth £11m. Cyflwynodd y cynllun hwn 38 fflat o ansawdd uchel gan gynnwys mannau cymunedol, gerddi ar doeon, parcio danddaear i breswylwyr ac uned fasnachol ar y llawr gwaelod yng nghanol y ddinas. Gan weithio mewn partneriaeth â chymdeithas dai yn Ne Cymru, mae'r datblygiad terfynol, a gafodd ei gwblhau yn 2020, yn dangos sut y gellir adfywio ardaloedd sy'n tanberfformio yng nghanol y ddinas drwy fuddsoddiadau allweddol a gweithio mewn partneriaeth.  

Denodd Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid fuddsoddiadau allanol gwerth £45m, gan greu cyfanswm buddsoddiad o £60m. Ar y cyd ag ailddatblygiad Friars Walk, a gwblhawyd yn 2015, mae cynlluniau adfywio wedi dod â bron i 1600 o swyddi i Ganol y Ddinas, ynghyd â llawer mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygu sgiliau.

O fewn craidd masnachol canol y ddinas mae Ardal Gwella Busnes (AGB) wedi bod ar waith ers 2015. Mae'r fenter, o'r enw Casnewydd Nawr wedi gweithredu rhaglen o welliannau a arweinir gan fusnesau ar draws meysydd allweddol er mwyn sbarduno newid cadarnhaol.

Y tu allan i ganol y ddinas mae nifer o gynlluniau, a gyflwynwyd mewn safleoedd masnachol allweddol, wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn ardaloedd o werth strategol a chyfleoedd mewn diwydiannau sy'n datblygu.

Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (y ICCW) - Mae'r ICCW, sy'n darparu ar gyfer mwy na 5,000 o bobl, wedi'i hadeiladu ar safle gwesty pum seren Celtic Manor Resort.  Agorodd yr adeilad llechi a gwydr trawiadol ym mis Medi 2019. Disgwylir i’r gyrchfan wych hon i ymwelwyr greu galw am 100,000 o nosweithiau ychwanegol mewn gwestai yn y rhanbarth bob blwyddyn.

Ffowndri IQE - Sicrhawyd mega-ffowndri newydd IQE yng Nghasnewydd mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, gyda chefnogaeth llywodraethau Cymru a'r DU.  Mae'n cynrychioli creu clwstwr lled-ddargludyddion cyntaf y byd yn Ne Cymru a disgwylir iddo ysgogi sector buddsoddi pellach i greu hyd at 2,000 o swyddi sgiliau uchel a chreu swyddi pellach drwy'r gadwyn gyflenwi.

Parc Busnes Celtic – wedi'i leoli ar hen safle Gwaith Dur Llanwern, mae'r parc busnes yn cael ei gwblhau fesul cam ac ar hyn o bryd mae'n gartref i Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles (CAF)sydd wedi buddsoddi £30m mewn ffatri newydd ym Mharc Busnes Celtic yng Nghasnewydd, gan greu hyd at 300 o swyddi newydd. Bydd y ffatri 46,000 metr sgwâr gerllaw’r orsaf drenau a’r cyfleuster parcio a theithio newydd arfaethedig yn Llanwern. Mae’r gwaith o adeiladu’r ffatri ym Mharc Busnes Celtic wedi’i gwblhau, mae’r gwaith o gynhyrchu trenau wedi dechrau a bydd y trên cyntaf yn cael ei gwblhau eleni. Bydd y ffatri hon yn cynhyrchu trenau cyflym, trenau disel a thrydan a thramiau rheilffordd ysgafn a fydd yn cael eu cyflenwi i weithredwyr ledled y DU. Mae Amazon UK Services Ltd hefyd ar y safle sydd wedi'i gysylltu'n dda i weithredu fel canolfan logistaidd.

Rydym am barhau i adeiladu ar y llwyddiant a gwneud Casnewydd yn un o’r dinasoedd gorau yn y DU. Rydym yn gweithio’n galed i ail-lunio ein dinas ac yn credu y gallwn ni wneud i hyn ddigwydd gyda’r mathau iawn o ymyrraeth a grym buddsoddi preifat a chyhoeddus ar y cyd.

E-bostiwch business.services@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656 i drafod eich anghenion busnes

Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi 

city vizion [blue river] copy P