banner image

Datblygiadau ar y Gweill

Developments Underway Square 400
Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi (pdf)

 

Cynlluniau Casnewydd - Ar fynd

Glan Llyn - Mae'r prosiect adfywio mawr hwn yn trawsnewid hen safle 600 erw Hen Waith Dur Llan-wern yn barc cymunedol a busnes newydd o bwys - Parc Busnes Celtic. Mae caniatâd cynllunio amlinellol i 4,000 o gartrefi newydd ac mae dros 800 eisoes wedi eu cwblhau. Mae'r ysgol gynradd gyntaf wedi ei chwblhau a bydd ail ysgol gynradd yn cael ei chyflwyno yn ystod camau hwyrach yn y datblygiad. Fe fydd y safle hefyd yn elwa o orsaf drenau yn y dyfodol agos. Mae nifer o unedau cyflogaeth hefyd wedi eu codi ar safle’r parc busnes gan gynnwys uned y cawr byd-eang Amazon. Ceir capasiti sylweddol ar gyfer buddsoddiad pellach ar gyfer datblygiadau preswyl a rhai masnachol.

Arcêd y Farchnad - bydd adnewyddu Arcêd y Farchnad sy’n adeilad rhestredig Gradd II, yr ail arcêd hynaf yng Nghymru, yn cynnig gofod gweithio hyblyg a siopau. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu'r arcêd yn atyniad newydd cyffrous i ganol y ddinas. 

Mill Street – ailddatblygu'r hen swyddfa ddidoli i tua 50,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd o ansawdd uchel. Mae'r ailddatblygiad yn elwa ar gysylltedd rhagorol ac yn agos at y brif orsaf reilffordd a pharcio cerbydau, tra bod y dyluniad yn cynnwys defnyddio cynwysyddion llongau fel ystafelloedd cyfarfod i greu amgylchedd swyddfa fodern. 

Hen Adeilad yr Orsaf – Newid defnydd llawr gwaelod a llawr cyntaf adeilad yr hen orsaf i fod yn ofod swyddfa cydweithredu 10,000 troedfedd sgwâr wedi’i wasanaethu.  

Canolfan Hamdden Newydd – Datblygu cynllun hamdden newydd gwerth £19.7m ar safle tir llwyd sy'n edrych dros yr Afon Wysg. Bydd y cyfleuster hamdden a lles newydd yn amgylcheddol gynaliadwy ac yn effeithlon o ran ynni ac yn hygyrch i breswylwyr ac ymwelwyr gan gefnogi gweithgarwch cynyddol yng nghanol y ddinas.

Campws Coleg Gwent – Campws arfaethedig canol y ddinas ar safle presennol Canolfan Hamdden Casnewydd. Bydd y cynllun oddeutu 20,000 metr sgwâr ac yn darparu cyfleusterau addysgu ar gyfer tua 2,000 o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau galwedigaethol.

Canolfan Ymwelwyr y Bont Gludo – Adnewyddu'r bont gludo restredig ac adeiladu canolfan ymwelwyr newydd ar gyfer profiad gwell sy'n hyrwyddo un o atyniadau treftadaeth a diwylliannol unigryw Casnewydd ac yn gwella'r cynnig twristiaeth.

 

E-bostiwch business.services@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656 i drafod eich anghenion busnes

Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi

Chartist - View 2 P