banner image

Ardaloedd Adfywio

MAP_FINALv002_P

Ardaloedd Adfywio 

Cymerwch Olwg ar Fap o Ardaloedd Adfywio
 
Cynigion Canol y Ddinas

Yn rhan o waith dwys ac ymroddedig, cam nesaf y gwaith o adfywio canol y ddinas yw datblygu uwchgynllun ar gyfer canol Casnewydd. Bydd yn amlinellu strategaethau a blaenoriaethau tymor byr, canolig a hir sy’n hanfodol i sicrhau mai Casnewydd yw’r lle gorau i fyw, gweithio, ymweld a gwneud busnes.

Nododd Uwchgynllun Canol y Ddinas dair ardal a safle allweddol yng nghanol y ddinas:

Ardal 1 – Porth y Gogledd

Yn gartref i orsaf drenau Casnewydd a gyda chysylltedd gwych, mae’r ardal hon yn ddelfrydol ar gyfer twf busnes o werth mawr yn y sectorau Technolegol, Digidol a Phroffesiynol. Bydd datblygu swyddfeydd o ansawdd ac ardal gyhoeddus well trwy fuddsoddiadau seilwaith yn helpu i amlhau potensial yr ardal i’r eithaf.

Ardal 2 – Ardal Graidd y Ddinas

Dyma ganolfan fanwerthu hanesyddol y ddinas, ac mae ganddi dreftadaeth bensaernïol gyfoethog rydym am ei diogelu a’i dathlu tra’n creu amgylchedd modern o ansawdd.  Mae’r ffaith bod y sector manwerthu’n lleihau yn cynnig cyfle i ddatblygu economi gymysg yn yr ardal hon, gydag ystod amrywiol o weithgareddau a chynlluniau byw canol y ddinas. Bydd cyflwyno chwarter gwybodus ar hyd glan yr afon a datblygu projectau adeiladu allweddol megis cynllun gwesty cyffrous Mercure Tŵr y Siartwyr yn agor yr ardal ac yn creu amgylchedd mwy deniadol i ymwelwyr.

Ardal 3 – Glan yr afon

Mae ardal Glan yr afon Casnewydd yn addasu i waith datblygu asedau hamdden a chwaraeon y ddinas, megis Theatr Glan yr afon a stadiwm Parêd Rodney, ac ailgysylltiad ag Afon Wysg.

E-bostiwch business.services@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656 i drafod eich anghenion busnes

Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi (pdf)
 

 

MAP KEY Regeneration Areas