banner image

Cysylltedd

Road Square

Mae Casnewydd yn elwa ar gysylltiadau ffyrdd, rheilffyrdd, môr ac awyr ardderchog sy’n ei gwneud yn lleoliad busnes a buddsoddi delfrydol. 

Mae’r lleoliad rhagorol, ynghyd a’i gweithlu mawr, wedi denu arweinwyr byd-eang mewn sectorau sy’n cynnwys technoleg, gweithgynhyrchu, dosbarthu, gwasanaethau ariannol a gwasanaethau’r llywodraeth i Gasnewydd. Mae’n gartref i Gocompare.com, Airbus, KLA (SPTS), Lloyds Banking Group, Vantage, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Swyddfa Eiddo Deallusol i enwi ychydig yn unig. 

Mae Llundain yn 90 munud i ffwrdd yn unig ar y trên a 120 munud mewn car. Mae dileu’r tollau ar 17 Rhagfyr 2018 eisoes wedi gwella teithiau ar y ffordd yn fawr a bydd trydaneiddoi arfaethedig rhwydwaith y rheilffordd  yn lleihau amserau teithio ar y trên er mwyn gwella dyfodol y ddinas ymhellach. 

Mae Casnewydd hefyd yn gwireddu ei huchelgais i fod yn hyb digidol cenedlaethol drwy fuddsoddiad o filiynau o bunnau yn ei chysylltiadau band eang a digidol. 

Am ragor o wybodaeth: 

RAIL SQUARE