banner image

Ffeithiau a ffigurau

Nexus House with people 2 P
Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi (pdf)
 

Ystadegau Busnes

  • Mae Casnewydd wedi’i henwi’n ddinas orau Cymru i gychwyn busnes
  • Yn 2il yn y DU o ran y gyfran uchaf o fusnesau twf uchel
  • Mae costau swyddfeydd a chyflogau 40% yn is na Llundain
  • Mae’r gyfradd cadw staff yng Nghasnewydd yn uwch na chyfartaledd y DU
  • Mwyfwy o sylw rhyngwladol – cynnal Cwpan Ryder yn 2010 ac Uwchgynhadledd NATO yn 2014
  • Mae’n gartref i gyfleuster newydd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (CGRC)
  • Mae dros 1.6 miliwn o bobl yn byw o fewn taith awr mewn car
  • Mae 6,000 o swyddi wedi’u creu rhwng 2015 a 2017

Cysylltedd

  • Mae Casnewydd yn elwa ar gysylltiadau ffyrdd, rheilffyrdd, môr ac awyr ardderchog sy’n ei gwneud yn lleoliad busnes a buddsoddi delfrydol.
  • Amserau gyrru o Gasnewydd: Caerdydd 20 munud, Bryste 30 munud, Birmingham 1 awr 30 munud, Llundain 2 awr
  • Cysylltiadau rheilffordd o Gasnewydd: Caerdydd 15 munud, Bryste 20 munud, Llundain 90 munud, Manceinion 2 awr 55 munud
  • Meysydd awyr rhyngwladol: Maes awyr Caerdydd 35 munud, maes awyr Bryste 45 munud, maes awyr Heathrow 2 awr, maes awyr Birmingham 2 awr.
  • Mae porthladd dŵr dwfn Casnewydd yn gallu cymryd llongau hyd at 40,000 o dunelli
  • Mae diddymu tollau’r bont wedi gwella teithiau ffordd a thorri costau
  • Mae cyflymderau band eang cyflym iawn a gwibgyswllt o hyd at 100 mbps ar gael yn 96% o safleoedd busnes y ddinas.
  • Mae Wi-Fi cyhoeddus am ddim ar gael ar draws y ddinas. 

Addysg

  • Mae 97% o’r bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • Campws prifysgol arobryn yng nghanol  ddinas - sy’n rhan o Brifysgol De Cymru.
  • Mae pum prifysgol o fewn 30 milltir i Gasnewydd, gan gynnwys campws arobryn Prifysgol De Cymru yng nghanol y ddinas
  • Un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru

 

University inside shot P