banner image

Gweithlu medrus

Skilled Workforce SQ 400
Lawrlwytho ein Prosbectws Buddsoddi (pdf)
 

Ystadegau’r gweithlu

  • Gall Casnewydd fanteisio ar bron hanner miliwn o bobl sy’n economaidd weithgar o fewn taith yrru 30 munud ac 1.6 miliwn o bobl mewn taith yrru awr.   
  • Mae gan weithlu Casnewydd hanes llwyddiannus o hyblygrwydd, ffyddlondeb ac ymroddiad. Mae cyflogau ymhlith y mwyaf cystadleuol yn y DU ac mae’r gyfradd cadw staff yn uwch na chyfartaledd y DU. 
  • Mae arbenigedd ar draws amrywiaeth eang o sectorau gan gynnwys TGCh a digidol, deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, diwydiannau creadigol, trafnidiaeth a logisteg a gwasanaethau cyhoeddus. 
  • Mae 97% o bobl ifanc Casnewydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. 
  • Mae costau swyddfeydd a chyflogau 40% yn is na Llundain 
  • Mae’r gyfradd cadw staff yng Nghasnewydd yn uwch na chyfartaledd y DU 
  • Mae sefydliadau’r sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghasnewydd yn ymrwymedig i helpu cyflogwyr i fodloni eu hanghenion recriwtio a sgiliau. 

Addysg, sgiliau a hyfforddiant

Prifysgolion

Mae gan Gasnewydd gampws prifysgol arobryn yng nghanol  ddinas - sy’n rhan o Brifysgol De Cymru. Un o gryfderau mawr Prifysgol De Cymru yw rhoi addysg sy’n berthnasol i ddiwydiant ac ymchwil sy’n berthnasol i fywyd pob dydd. 

Mae prifysgolion uchel eu parch eraill o fewn 30 milltir i Gasnewydd, sef Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.

Mae Casnewydd yn gwireddu ei huchelgais i fod yn hyb digidol cenedlaethol gan ddarparu addysg ac ymchwil sy’n berthnasol i’r byd diwydiant. Rydym yn gartref i’r canlynol:

  • Academi Seiber-Ddiogelwch Genedlaethol, y gyntaf o’i math yng Nghymru, ar gampws dinas Casnewydd Prifysgol De Cymru. Menter sector cyhoeddus/preifat ar y cyd â chwmnïau diwydiannol megis Airbus, General Dynamics UK, Wolfberry a Chlwstwr Seiber-Ddiogelwch De Cymru yw hon.
  • Mae TESTIA (un o gwmnïau Airbus) yma’n hyfforddi peirianwyr tra medrus ar gyfer y diwydiant awyrofod.
  • Mae Sefydliad Alacrity y DU yn cynnig amgylchedd hyfforddiant dwys i baratoi graddedigion ar gyfer entrepreneuriaeth yn y sector technoleg. 
Arall
  • Mae Coleg Gwent yn un o golegau addysg bellach Cymru sydd â’r perfformiad gorau gyda champws yng Nghasnewydd sy’n cynnig cymwysterau galwedigaethol a phrif ffrwd.
  • Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfrifol am nodi sectorau twf a’r galw am sgiliau ar draws y rhanbarth. 

 

Construction woodwork P