Banner image

Associated British Ports (ABP)

Newport Sea Port P

Diwydiant porthladdoedd y DU yw’r un mwyaf yn Ewrop ac mae ei weithrediadau yn darparu seilwaith economaidd hanfodol ar gyfer gweithgynhyrchwyr a busnesau’r genedl. 

ABP yw gweithredwr porthladdoedd mwyaf blaenllaw y DU, gyda rhwydwaith o 21 o borthladdoedd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. 

Yn 2014 ymdriniodd ABP a’i gwsmeriaid â 94.5 miliwn o dunellau o gargo. Ynghyd â’u cwsmeriaid, maent yn cefnogi 84,000 o swyddi ac yn cyfrannu £5.6 biliwn i economi’r DU bob blwyddyn. 

Casnewydd yw’r un mwyaf i’r dwyrain o Borthladdoedd De Cymru ABP. Mae’r porthladd mewn lleoliad gwych i wasanaethu prif ranbarthau diwydiannol a masnachol y DU. Mae ABP wedi buddsoddi’n sylweddol yng Nghasnewydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mewn cynlluniau fel cyfleusterau warws newydd, mannau storio agored, a seidins rheilffordd ychwanegol. Mae Porthladd Casnewydd yn hyb ar gyfer dur, metelau, ailgylchu ac ynni adnewyddadwy.

Bu buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ABP yn Ne Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae projectau cyflawn yn cynnwys arae paneli solar 4.5MWp 20 erw ym Mhorthladd Y Barri a agorodd ym mis Awst 2015 a phaneli solar 250kW ar doeau a gafodd eu gosod ym mhorthladdoedd Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe Erbyn diwedd 2016 bydd ABP De Cymru yn gartref i dros 10mw o brojectau ynni adnewyddadwy.  

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan ABP